Development hello@derwdigital.co.uk Chwefror 6, 2020
DYMA EIN STORI HYD YN HYN DATBLYGIAD
Gwaith tîm yw'r gallu i gydweithio tuag at gweledigaeth cyffredin

Yn ystod gaeaf 2022, daeth y tîm creadigol at ei gilydd am y tro cyntaf i ddechrau datblygu’r prosiect hwn. Ariannwyd yr ymchwil a datblygu gan Cyngor Celfyddydau Cymru ac roedd yn cynnwys cyfres o ddarllen llyfrau perfformiadol mewn llyfrgelloedd o’r llyfr ‘The Little Blue Planet Needs You’ gan Frances Bella. Y llyfr oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect sydd bellach yn cael ei alw’n ‘The School of Planet Powers for Extraordinary Children’, neu 'Ysgol Pwerau Planed i Blant Arbennig'. Yn dilyn darlleniadau’r llyfr cafodd y tîm creadigol oedd yn cynnwys; Eleanor Appleton yr awdur a’r cynhyrchydd, Livi Wilmore yr artist digidol, Chloe Wyn y dylunydd set, Vicki Fleming y cyd-gynhyrchydd a Gareth Eckley y peiriannydd sain, dridiau gyda’i gilydd i ddatblygu’r syniad a strwythur y sioe.

Y tîm y tu ôl i'r weledigaeth
Eleanor
Eleanor Appleton yw Cyfarwyddwr Artistig EA Productions ac mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad fel ymarferydd theatr a rheolwr prosiect digwyddiadau.
ELEANOR APPLETON
AWDWR & CYNHYRCHYDD
Livi
Artist digidol a datblygwr XR yw Livi sy'n defnyddio technoleg y dyfodol i wella adrodd straeon a herio safbwyntiau pobl ar y byd o'u cwmpas.
LIVI WILMORE
ARTIST DIGIDOL
Chloe Wyn
Graddiodd Chloe o LIPA yn 2020 ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn theatr sy’n ennyn diddordeb cynulleidfaoedd theatr anhraddodiadol.
CHLOE WYN
DYLUNYDD SET
Gareth Eckley
Dechreuodd Gareth weithio gydag EA Productions yn gwneud gwaith Foley i "The Drowned", cynhyrchiad theatr trochi Calan Gaeaf ac mae'n gweithio ar sain a cherddoriaeth ar gyfer y prosiect hwn.
GARETH ECKLEY
SOUND ENGINEER & MUSICIAN
R & D Rhagfyr 2022
Play Video
CY